Green GEN Tywi Teifi

Green GEN Tywi Teifi

Cysylltu ynni adnewyddadwy â chartrefi a busnesau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Ar hyn o bryd, nid yw rhwydwaith trydan Gorllewin Cymru yn gallu cysylltu ynni adnewyddadwy newydd â chartrefi a busnesau. Rydyn ni angen seilwaith newydd ar frys er mwyn rhoi’r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil.

Mae Green GEN Cymru yn cynnig llinell uwchben 132kV newydd i gysylltu Parc Ynni Lan Fawr yng nghorllewin Cymru ag is-orsaf newydd y Grid Cenedlaethol yng Nghaerfyrddin.

Rydyn ni’n gwybod bod gan bobl safbwyntiau gwahanol am seilwaith a pheilonau newydd. Rydyn ni’n canolbwyntio ar darfu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd a’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn mwynhau gweithgareddau hamdden yn agos at ein cynigion. Byddwn yn datblygu ein prosiect yn sensitif ac yn ystyried a oes angen gosod unrhyw ran o’r cysylltiad o dan y ddaear i ymateb i asesiadau parhaus ac adborth i’r ymgynghoriad.

Rhoi pŵer i ynni cadarnhaol

Rhoi pŵer i ynni cadarnhaol

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod gan Gymru’r ynni sydd ei angen arni mewn byd Sero Net.

Mae potensial di-ben-draw i ynni adnewyddadwy yng Nghymru – yn enwedig o’r gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd. Ond mae’r ynni gwyrdd hwn yn cael ei ddal yn ardaloedd gwyntog Cymru, ac mae angen i ni sicrhau ei fod yn cyrraedd y cartrefi, yr ysbytai, yr ysgolion, y busnesau a’r cymunedau sydd ei angen. Er mwyn ymateb i’r her hon a chyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 100% o drydan adnewyddadwy yng Nghymru erbyn 2035, rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trydan adnewyddadwy cryfach a mwy gwydn y mae ei angen yn fawr yng Nghymru – gan ddosbarthu ynni glân a gwyrdd.

Rydyn ni eisiau creu dyfodol cadarnhaol a glân i bob un ohonom. Heb y seilwaith cywir, nid yw’n bosibl cyflawni gweledigaeth Sero Net Cymru.

Y llwybr sy’n cael ei ffafrio gennym

Mae’r llwybr rydyn ni’n ei ffafrio wedi’i amlinellu ar y map isod. Mae wedi’i rannu’n bum adran i’w gwneud hi’n haws rhoi adborth.

Rydyn ni wedi trefnu ein cynigion yn fap llinol o’r prosiect gyda’r llwybr sy’n cael ei ffafrio fel llinell yn unig. Mae rhagor o wybodaeth am bob adran a’r hyn sydd wedi dylanwadu ar ein penderfyniadau ar gael ar y dudalen y llwybr sy’n cael ei ffafrio gennym.

Ein map llwybr dewisol

Animeiddiad o’r prosiect

Gwyliwch ein hanimeiddiad o’r prosiect i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, sut mae’n cysylltu â’r rhwydwaith trydan a pham ei fod yn hanfodol.

Mae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.

Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?

Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.

Cofrestrwch yma